Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dadansoddi Achosion

PA FFACTORAU SY'N RHAID YMDRIN Â HWY ER MWYN PONTIO'R BWLCH A CHYFLAWNI AMCANION Y PROJECT?

Mae'r dadansoddiad achosion yn elfen allweddol o'r fethodoleg gan y bydd yn eich cynorthwyo i benderfynu pam bod y bylchau mewn perfformiad yn bodoli a bydd yr adran hon hefyd yn eich cynorthwyo i nodi ac ymchwilio i'r rhwystrau.     Bydd y rhain yn cynnwys ffactorau'n ymwneud â phobl a phrosesau.  Mae'r dadansoddiad achosion yn eich annog i wahanu'r ddwy elfen, ond fe welwch y bydd llawer o'r ffactorau yn gydberthynol.    Nod yr adran hon yw chwilio am achosion sylfaenol y 'bwlch' a'ch cynorthwyo i wneud y canlynol:

  • Nodi meysydd na fyddech wedi eu hystyried fel arall o bosib.
  • Peidiwch â rhagdybio'r achosion sylfaenol.
  • Rhowch gymorth gyda'r gwaith o ddatblygu achos busnes gwybodus i'r project.
  • Rhowch gymorth gyda'r gwaith o flaenoriaethu'r camau sy'n angenrheidiol i ymdrin ag amcanion y project.

POBL

Mae hyn yn gofyn am ddadansoddiad o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â phobl sy'n cyfrannu at y bwlch mewn perfformiad.
Rhai cwestiynau i’w hystyried:

  • A oes gan y staff y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol?
  • Beth yw’r bylchau penodol mewn sgiliau a gwybodaeth?
  • Beth yw’r swyddogaethau a'r cyfrifoldebau yng nghyd-destun y project hwn ac a oes unrhyw fylchau?
  • A oes gan staff yr adnoddau angenrheidiol i wneud y gwaith?
  • A oes unrhyw broblemau capasiti - o ran ymdrin â galwadau eraill yn y gwaith?
  • A fydd y staff yn cyflawni'r ddyletswydd yn rheolaidd neu o bryd i'w gilydd?
  • A gymerwyd amser i rwystro'r broblem rhag effeithio ar ddyletswyddau eraill?
  • A oes problemau tîm fydd yn rhwystro cynnydd y project?
  • A fydd y lefelau presennol o gymhelliant ac ymddygiad yn cefnogi'r newid?
  • A oes problemau unigol fydd yn rhwystro cynnydd y project?

 

PROSESAU

Mae hyn yn gofyn am ddadansoddiad o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â phrosesau sy'n cyfrannu at y bwlch mewn perfformiad.

Rhai cwestiynau i’w hystyried:

  • Beth yw'r tagfeydd?
  • Pa mor effeithlon yw'r adnoddau cefnogi?
  • A yw'r gweithdrefnau a'r prosesau wedi eu diffinio'n dda?
  • Pa wybodaeth oedd yn anodd ei chael/ei chael mewn pryd?
  • Pa seilwaith sefydliadol sy'n cefnogi'r gweithgaredd hwn?
  • A yw'r elfennau o seilwaith TG wedi eu hintegreiddio'n dda?

 

ADNODDAU DADANSODDI DEFNYDDIOL:

Technegau syniadaeth ddarbodus
Dadansoddi cadwyn werthoedd
Dadansoddi anghenion hyfforddi

Yn ol i'r brif ddewislen

Site footer