Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Project Peilot

Mae prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi bod yn gweithredu'r systemau rhestri darllen newydd i geisio sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl i'r myfyrwyr a'r staff academaidd. Mae'r broses yn cynnwys mabwysiadu rhaglenni meddalwedd cyfochrog, polisi a'r camau gweithredu fydd yn gwella'r gwasanaethau rhestr ddarllen i fyfyrwyr mewn ffordd effeithiol a chynhwysfawr. Nid yw'r timau gwasanaeth yn y llyfrgell yn cael cyfle o'r fath yn aml i gydweithio ar broject sy'n ceisio cyflwyno gwelliannau i'r seilwaith. Felly mae'r project hefyd yn cynnig cyfle i dimau ddysgu am fethodolegau rheoli newid a chydweithio mewn ffordd ddeinamig newydd.

Yn draddodiadol, mae'r rhan fwyaf o brifysgolion wedi cael anhawster i lunio, catalogio a chwblhau rhestri darllen mewn prosesau effeithlon ac effeithiol. Yn gynyddol, mae prifysgolion yn gwella offer technolegol i ymdrin â'r llif o wybodaeth a thasgau angenrheidiol yn y prifysgolion fel y gellir monitro a chofnodi'r cynnydd yn effeithlon. Erbyn hyn, mae Aberystwyth a Bangor wedi mabwysiadu'r un system meddalwedd ac maent yn defnyddio'r fethodoleg P3 i weithredu'r feddalwedd yn eu timau a gyda'u cydweithwyr ym mhob prifysgol.

Site footer