Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croeso i'r Prosiect P3 - Pobl, Perfformiad a Phroses

P3 - Pobl, Perfformiad a phroses yw enw project sy'n ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio methodoleg Technoleg Perfformiad Dynol sydd wedi'i haddasu i brofi sut y gellir ei defnyddio ar gyfer y sector Addysg Uwch yn y DU.

Mae Technoleg Perfformiad Dynol yn ddull rheoli newid a sefydlwyd ers tro ac a ddefnyddir ar raddfa fawr mewn sefydliadau masnachol mawr yn fyd-eang ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y DU nag yn sector addysg uwch y byd.  Rhoddir pwyslais sylweddol ar y fethodoleg Ddarbodus mewn methodolegau rheoli newid cyfredol.  Mae Technoleg Perfformiad Dynol yn cwmpasu hyn ac yn rhoi sylw mewn ffordd strwythuredig i'r angen i gynnwys Pobl ac effaith gyfunol Proses a Phobl ar Berfformiad.Fel adnodd, mae'r fethodoleg Technoleg Perfformiad Dynol yn ei ffurf lawn yn debygol o fod tu hwnt i adnoddau Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU. 

Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi sefydlu project, a gyllidwyd gan Gronfa Arloesi a Thrawsnewid y Sefydliad Arweinyddiaeth i ddatblygu a phrofi ffurf gryno o'r fethodoleg gan ddefnyddio rhaglen ar y cyd yn y llyfrgelloedd fel pwnc.

Caiff cyfleoedd eraill i ddefnyddio'r fethodoleg eu nodi ym mhob prifysgol a bydd y ffurf newydd o'r fethodoleg yn cael ei phrofi yn ôl y gwahanol amgylcheddau hyn.

Site footer