Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Rheoli newid ym Mhrifysgol Bangor

Ym Mangor mae'r Brifysgol yn cydlynu ymagwedd ganolog at brojectau a rhaglenni newid strategol a yrrir gan y canol drwy'r swyddfa Cynllunio a Llywodraethu a'r swyddogaeth Newid Strategol sydd ganddi. Arweinir newid strategol yn y Brifysgol gan y Pennaeth Newid Strategol, y Cyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu, y Dirprwy Is-ganghellor ac Uwch Swyddogion eraill sy'n adnabod a gweithredu ystod o brojectau newid strategol sydd wedi'u hanelu at wella systemau a phrosesau busnes, gwneud arbedion effeithlonrwydd a galluogi i'r Brifysgol gyflawni ei blaenoriaethau strategol am 2015-2020. Mae'r Swyddfa hefyd yn rhoi cefnogaeth i Ysgolion, Colegau a Gwasanaethau Canolog gyda'u projectau rheoli newid, gan roi'r arbenigedd a'r sgiliau rheoli project er mwyn sicrhau y cyflawnir newid yn effeithiol. Yn ogystal, mae'r swyddfa yn gweithio'n agos â sefydliadau AU eraill yng Nghymru i rannu dulliau gweithredu cadarnhaol ac adnabod cyfleoedd i rannu gwybodaeth ac adnoddau ym meysydd rheoli newid, rheoli projectau a gweithredu'n fwy effeithlon.

Am fwy o fanylion clichiwch yma

Site footer