Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Project P3

Sut caiff y project ITF  ei reoli

Mae'r model TPD wedi ei brofi a'i addasu yn gychwynnol drwy'r project gan ganolbwyntio ar y gwelliannau i reoli rhestri darllen ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. 

Sicrhaodd gam cyntaf y project fod pawb sy'n gysylltiedig yn deall egwyddorion a dulliau gweithredu'r model TPD fel y gallant wedyn gyfrannu at ei ddatblygiad drwy gydol cyfnod y project.

Cyfnodau allweddol: 

1 Gweithdy ar y cyd i ddechrau er mwyn:

  • Edrych ar y model TPD a'i berthynas â syniadaeth Ddarbodus. 
  • Deall y broses o gymhwyso'r fethodoleg i'r project peilot  
  • Gwneud dadansoddiad sefydliadol (fel y nodir yn y model TPD)  
  • Cytuno ar y lefelau perfformiad a ddymunir a'r canlyniadau sydd i'w cyflawni erbyn diwedd y project.   
  • Cytuno ar weithgorau ar y cyd, amlinelliad o'r project a cherrig milltir. 

2 Ym mhob sefydliad bydd staff wedyn yn:

  • Cytuno ar grŵp llywio a thîm project lleol  
  • Gwneud dadansoddiad bwlch ac achos (gan ddefnyddio methodoleg syniadaeth ddarbodus) yn cynnwys dadansoddiad o'r man cychwyn. 
  • Diffinio perfformiad (mewn perthynas â'r canlyniadau sefydliadol sydd eu hangen).
  • Gwneud dadansoddiad bwlch o sgiliau a gwybodaeth ac ymchwilio i unrhyw rwystrau eraill o ran newid yn y ddau sefydliad.
  • Bydd y timau yn y ddau sefydliad wedyn yn bwydo darganfyddiadau yn ôl i'w gilydd a datblygu cynllun gweithredu i'w roi ar waith. Mae gan y Cynllun Gweithredu set o weithrediadau a fydd yn cynnwys:
    • Swyddogaethau a chyfrifoldebau tîm y project.
    • Creu man cychwyn - nodi a mesur gwaith sydd eisoes wedi'i wneud 
    • Gweithio ar gynllun sefydliadol y broses rhestr ddarllen. 
    • Rhoi TPD ar waith ac aildrefnu prosesau presennol yn unol â hynny  
    • Gweithdy ar benderfyniadau polisi sy'n rhoi sylw i faterion llyfrgell ac academaidd 
    • Ymyriadau dysgu a gwybodaeth (e.e. cyflwyniadau ac yn arbennig hyfforddiant i grwpiau ac unigolion) i roi sylw i fylchau mewn sgiliau a gwybodaeth. 
    • Cydrannau cyfathrebu sefydliadol. 
    • Rhoi sylw i fater newid diwylliannol drwy archwilio ymarfer cyn y project a mabwysiadu dulliau gweithredu newydd 
    • Cynhyrchu adroddiad a gwerthusiad o TPD yn y cyd-destun hwn gydag argymhellion ar gyfer ymarfer gorau. 

3. Adolygu 

Bu'r Grŵp Llywio yn adolygu timau gwasanaeth yn y ddwy brifysgol a chynnal cyfweliadau wedi'u targedu gydag ystod gydweddol o wasanaethau er mwyn edrych ar y potensial i fabwysiadu dull gweithredu TPD yn eu maes gwasanaeth.

4. Gwerthuso 

Ar ddiwedd y cyfnod cynhaliwyd gweithdy gan bawb oedd yn cymryd rhan yn y project i werthuso'r project yng nghyd-destun y model TPD hynny yw, Ffurfiannol (lefel 1), Crynodol (lefelau 1 a 2), Cydymffurfiol (lefelau 3-5) a'r gwerthusiad meta o ran gwersi a ddysgwyd.

5. Mesurau

I gefnogi'r broses uchod, defnyddiodd y Grŵp Llywio'r mesurau canlynol i sicrhau ansawdd ac effeithiolrwydd y project:

  1. Adnabod rhai sy'n defnyddio TPD ers amser ac ymweld â sefydliadau eraill sy'n defnyddio TPD i weld ymarfer gorau ar waith.
  2. Gwnaed adolygiad llenyddiaeth i ddod ar draws tystiolaeth o ymarfer gorau.
  3. Bu ymarferwr TPD allanol profiadol yn gweithredu fel mentor i'r project yng nghyd-destun y Model TPD craidd a'r addasiadau a gynigiwyd ac/neu a weithredwyd.
  4. Mae'r Grŵp/iau Llywio yn cynnwys penaethiaid gwasanaeth o feysydd eraill yn y prifysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynllun ac ennyn eu diddordeb ynddo.
  5. Mae'r fethodoleg yn rhoi sylw i gwestiynau cynaliadwyedd drwy hyrwyddo egwyddorion allweddol i'w mabwysiadu yng ngweithgareddau Datblygu Rheolaeth ac Arweinyddiaeth yn y ddwy brifysgol.

Site footer