Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dadansoddiad Amgylcheddol

BETH YW EICH SEFYLLFA?  - BETH SY'N RHAID I CHI EI GYFLAWNI A BETH YW'R SEFYLLFA YN FEWNOL?

Mae'r adran hon yn edrych ar y project o ran y ffactorau 'allanol' a 'mewnol' a fydd yn effeithio ar y project.   Nod yr adran hon yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • 'Darlun mawr' y project.
  • Nodi prif sbardunwyr y newid.
  • Beth yw'r capasiti mewnol ar hyn o bryd a'r gallu i gyflawni amcanion y project.

 

CANLLAWIAU BYR

ALLANOL

Yn yr adran hon, mae'n rhaid i chi nodi ac ystyried y dylanwadau allanol ar y project, e.e. y prif sbardunwyr a'r budd-ddeiliaid.

Cwestiynau i’w hystyried:

  • Beth yw sbardunwyr allanol y project?
  • Beth yw disgwyliadau'r budd-ddeiliaid?
  • Beth yw lefel boddhad budd-ddeiliaid ar hyn o bryd?

Pa ffactorau y tu allan i'r project  a fydd yn effeithio ar y project?

MEWNOL

Yn yr adran hon, mae'n rhaid i chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd ar lefel ficro yn eich lle gwaith chi.  Yn yr adran hon, mae'n rhaid i chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng nghyd-destun prosesau a phobl.  

Cwestiynau i’w hystyried:

  • Yn fewnol, beth yw sbardunwyr y project a beth yw'r rhwystrau i'r project?
  • Pa brosesau a systemau llif gwaith sydd ar waith ar hyn o bryd a fydd yn effeithio ar lwyddiant y project?
  • Pa wybodaeth, sgiliau, gallu a chymhelliant sydd gan y staff sy'n rhan o'r project i sicrhau llwyddiant y project?
  • Pa adnoddau sydd ar gael i gyflawni amcanion y project?

 

ADNODDAU DADANSODDI DEFNYDDIOL:

PESTLE
SWOT
Dadansoddiad budd-ddeiliaid
Meincnodi

Cyfweliadau
Grwpiau ffocws
Dadansoddiad maes grym
Arolygon

Yn ol i'r brif ddewislen

Site footer