Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwerthuso

SUT YDYCH YN GWYBOD BOD Y PROJECT YN/WEDI CYFLAWNI EI AMCANION?

Mae'n ddefnyddiol cynnwys gwerthuso yn y project (yn arbennig gyda phroject ar raddfa fawr).  Yn ystod y project, mae'n syniad da sicrhau'r canlynol:

  • Ymateb cychwynnol -  er mwyn sicrhau dealltwriaeth o'r dulliau a'r problemau posib a llywio'r cam nesaf
  • Defnydd -  dadansoddiad o ddull gweithredu'r project i asesu effeithiolrwydd y broses o ddadansoddi a gweithredu

Ar ôl cwblhau'r gwerthusiad o'r project, mae'n ddefnyddiol dadansoddi effaith a llwyddiant cymharol y project a nodi meysydd pellach y gallai fod angen rhoi sylw iddynt.  Mae'r gwerthusiadau a awgrymwyd ar ôl cwblhau'r project yn cynnwys:

  • Canlyniadau tymor byr - dadansoddiad o effaith cychwynnol a chanlyniadau rhoi'r project ar waith.  Gwneir hyn 6 mis ar ôl cwblhau'r project.
  • Effaith tymor hir - asesu effaith tymor hir y canlyniadau a'r cynnyrch. Gwneir hyn flwyddyn ar ôl cwblhau'r project.

Gellir cynnwys hefyd adran 'gwersi a ddysgwyd' sy'n rhan o'r ddau werthusiad olaf er mwyn amlinellu pa wersi a ddysgwyd yn ystod y project a fydd yn cefnogi gwelliant parhaus yn y brifysgol. 

Lefel werthuso

Rhai cwestiynau i’w hystyried:

Ymateb cychwynnol

  • A ydych yn deall amcan cyffredinol y project?
  • A yw nod y project yn cyfrannu at amcanion cyffredinol y brifysgol?
  • A yw'r materion allweddol sy'n hanfodol i lwyddiant y project wedi cael sylw llawn?
  • A yw gofynion y budd-ddeiliaid wedi eu deall yn llawn?
  • A yw'r ystyriaethau'n ymwneud â chydraddoldeb, yr iaith Gymraeg, cynaliadwyedd a risg wedi cael sylw llawn?
  • A ydych yn teimlo eich bod wedi deall y dadansoddiad sefydliadol yn llawn?
  • A ydych yn teimlo eich bod wedi deall y dadansoddiad bwlch yn llawn?
  • A yw'r dadansoddiad bwlch wedi nodi bylchau clir o ran pobl, perfformiad a phrosesau?
  • A oes unrhyw agweddau a fydd yn effeithio ar y project rydych yn credu nad ydynt wedi'u nodi hyd yma y dymunwch iddynt gael eu hystyried?
  • A ydych yn teimlo eich bod yn glir yn awr ynghylch camau'r broses P3?
  • Beth sydd wedi bod fwyaf defnyddiol/difyr ynghylch y project i chi hyd yma?
  • Beth sydd wedi bod lleiaf defnyddiol/difyr ynghylch y project i chi hyd yma?
  • A ydych wedi cael budd o'r rhwydweithio ac o weithio gyda thîm arall sy'n gweithredu'r un system?  (dim ond os ydych yn gweithio gyda thîm arall) Os ydych, nodwch beth oedd yn ddefnyddiol i chi.
  • Pa welliannau ydych chi'n credu y gellid eu gwneud i'r dull gweithredu presennol a fyddai'n gwella canlyniad y project P3?
  • Pa awgrymiadau sydd gennych i wneud y project yn fwy effeithiol?

 

Defnydd

  • A oedd y dadansoddiad cychwynnol (y dadansoddiad amgylcheddol a'r dadansoddiad bwlch) yn ddefnyddiol o ran y canlynol: bod yn glir iawn ynghylch canlyniadau'r project, nodi ystod eang o faterion a fydd yn cael effaith ar y canlyniadau, adnabod ffactorau a allai fod wedi cael eu hanwybyddu fel arall?
  • Pa welliannau ydych chi'n credu y gellid eu gwneud i'r dull gweithredu a fyddai'n gwella canlyniad y project P3?
  • Pe baech yn defnyddio'r broses P3 eto ar gyfer project, pa awgrymiadau sydd gennych i wneud y broses yn fwy effeithiol?
  • A ydych wedi cael budd o'r rhwydweithio ac o weithio gyda thîm arall sy'n gweithredu'r un system?  (os ydych yn gweithio gyda thîm arall) Os ydych, nodwch beth oedd yn ddefnyddiol i chi.
  • Pa awgrymiadau sydd gennych ar gyfer defnyddio'r broses P3 yn effeithiol?
  • Was A oedd y dull P3 yn ddefnyddiol o ran y canlynol: bod yn glir iawn ynghylch canlyniadau'r project, nodi ystod eang o faterion a fydd yn cael effaith ar y canlyniadau, adnabod ffactorau a allai fod wedi cael eu hanwybyddu fel arall?

 

Canlyniadau tymor byr

  • Beth yw prif ganlyniadau'r project hyd yma?
  • Pa gynnydd a wnaed o ran y dadansoddi bylchau?
  • Pa agweddau ar y project sy'n datblygu'n dda?
  • Pa agweddau ar y project nad ydynt yn datblygu gystal?
  • Os oes unrhyw agweddau ar y project nad ydynt yn datblygu'n dda, beth yw'r rhwystrau i gynnydd? Amlinellwch y camau sy'n rhaid eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.
  • Pa newidiadau a wnaed i ddull gweithredu'r project ers cwblhau'r cynllun gweithredu?
  • A oes unrhyw ddatblygiadau annisgwyl wedi digwydd?  Os felly, beth ydynt a sut ydych yn mynd i'r afael â hwy?

Effaith tymor hir a'r gwersi a ddysgwyd

  • Beth a gyflawnwyd yng nghyd-destun y dadansoddiad bylchau?
  • Beth yw prif ganlyniadau'r project?  (o ran  dangosyddion perfformiad allweddol a'r cynnydd yng nghyd-destun y cynllun gweithredu)
  • Pa gynnydd a wnaed ers cwblhau'r cynllun gweithredu?
  • O ran symud trwy gamau'r P3 i ddatblygu'r cynllun gweithredu, a fyddech yn gwneud unrhyw beth yn wahanol yn awr?
  • Pa agweddau ar y project sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus a pham?

 

  • Pa agweddau ar y project sydd wedi bod lleiaf llwyddiannus a pham?
  • Beth ydych wedi ei ddysgu'n bennaf o'r project fel aelod o'r tîm?
  • Beth yw'r prif wersi a ddysgwyd o safbwynt y tîm?
  • Beth yw'r prif wersi o'r project yr hoffech eu rhannu â'r brifysgol?

Yn ol i'r brif ddewislen

Site footer