Dadansoddi Bylchau
SUT MAE'R BWLCH RHWNG LLE RYDYCH AR HYN O BRYD A LLE RYDYCH EISIAU BOD YN EDRYCH?
Mae'r adran hon yn dadansoddi maint y bwlch rhwng lle rydych ar hyn o bryd a lle rydych eisiau bod. Bydd yr adran hon yn rhoi syniad i chi o raddfa'r newid a pha feysydd sy'n rhaid ymdrin â hwy yng nghynllun gweithredu'r project. Yn yr adran hon, yn seiliedig ar y dadansoddiad sefydliadol a'r dadansoddiad amgylcheddol, gallwch yn awr:
- Nodi'r hyn sy'n rhaid i chi ei gyflawni a'r prif rwystrau i gyflawni amcanion y project.
- Nodi'r hyn sydd eisoes yn ei le i gyflawni amcanion y project.
- Nodi'r hyn rydych yn ei wneud sydd eisoes yn mynd y tu hwnt i'r lefel perfformiad angenrheidiol i gyflawni amcanion y project.
|
CANLLAWIAU BYR |
BYLCHAU NEGYDDOL |
Nodwch lle mae'r perfformiad ar hyn o bryd yn llai na'r perfformiad angenrheidiol. Cwestiynau i’w hystyried:
|
BYLCHAU NIWTRAL |
Lle mae'r perfformiad ar hyn o bryd ar yr un lefel â'r perfformiad angenrheidiol.
|
BYLCHAU CADARNHAOL/YR AMCANION EITHAF (STRETCH GOALS) |
Yn yr adran hon, nodwch lle mae'r perfformiad ar hyn o bryd yn well na'r perfformiad angenrheidiol. Cwestiynau i’w hystyried:
|