Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dechrau arni - Cyflwyniad i P3

Mae'r pecyn cymorth hwn yn darparu canllaw i'r fethodoleg P3 a ddatblygwyd ym Mangor yn 2015/16 gyda chyllid gan Gronfa Arloesi a Thrawsnewid y Sefydliad Arweinyddiaeth. Mae'n darparu fframwaith systematig i brojectau rheoli newid.  Gellir addasu'r fethodoleg ar gyfer projectau ar raddfa fawr a bach ac i gyd-fynd ag amcanion a chyd-destun gwahanol fathau o brojectau. Canllaw yw'r ddogfen hon sy'n darparu pro fforma i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio eich project.

Un o brif flaenoriaethau P3 yw sicrhau eglurder canlyniadau arfaethedig project (perfformiad) a sicrhau bod amcanion y project wedi eu diffinio'n amlwg ac wedi eu hystyried yn llawn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib. Mae P3 hefyd yn rhannu'r dadansoddiad i ddau ddosbarth, sef pobl a phrosesau.   Mae'r rhain, wrth gwrs, yn gorgyffwrdd ac yn gydberthynol. Ond wrth eu gwahanu, mae'n gallu bod yn haws nodi a dadansoddi'r rhwystrau i lwyddiant.
Amcan cyffredinol P3 yw cysylltu'r elfennau hyn oll er mwyn sicrhau bod y project yn llwyddiannus.  Dyma'r prif gwestiynau i'w hystyried wrth ddefnyddio P3:

  • Beth sydd angen i chi ei gyflawni a pham?
  • Yng nghyd-destun y 'darlun mawr', beth yw prif sbardunwyr y newid?
  • Sut mae'r sefyllfa bresennol yn ymwneud â'r newid sydd ei angen?
  • Sut mae'r bwlch rhwng lle rydych eisiau bod a lle rydych ar hyn o bryd yn edrych?
  • Beth sy'n achosi'r bwlch o ran pobl, perfformiad a phrosesau?

Pa gamau sy'n rhaid eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau a gwireddu'r amcan cyffredinol?
Description: Macintosh HD:Users:chrisdrew:Desktop:Cymraeg.png
Yng nghyd-destun P3, wrth drafod perfformiad, pobl a phrosesau, mae'r canlynol yn nodi pa elfennau o'r project a ddadansoddir dan yr amrywiol elfennau:

Perfformiad: 

Dadansoddi a diffinio'r lefel perfformiad gofynnol i gwblhau'r project.

Pobl: 

Ystyried elfennau'r project sy'n gysylltiedig â phobl, er enghraifft lefelau sgiliau a gwybodaeth, capasiti, arweinyddiaeth, swyddogaethau, cymhelliant, rheoli perfformiad, diwylliant sefydliadol, gweithio mewn tîm ac ergonomeg y lle gwaith, etc.

Proses:

Ystyried elfennau'r project sy'n gysylltiedig â phroses, er enghraifft prosesau mewnol y tîm, prosesau'r brifysgol sy'n effeithio ar y project, systemau ariannol a systemau TG, etc.

Elfen arall o P3 yw adolygu cynnydd ac effaith trwy gydol y project ac ar ôl ei gwblhau.  Yn ystod y project, gellir defnyddio'r broses werthuso i sicrhau bod staff yn deall amcanion y project ac yn ymroi i'r project.  Ar ddiwedd y project, nod y broses werthuso yw dangos effaith y project, dangos lefel llwyddiant y project ac ymdrin ag agweddau ar y project nad ydynt yn gweithio'n effeithiol.

Defnyddio'r pecyn cymorth

The aim of the Toolkit is to provide you with a framework and guide for each section which you can use and adapt to suit your needs and the project.  Each section also poses some questions to get you thinking about the information you may need.  Some sections also provide guidance regarding the methodologies that may help you collect and analyse the information you need.  These lists are not exhaustive.

Rhai Awgrymiadau

  • Mae'r pecyn yn cynnwys cyflwyniad Powerpoint y gallwch ei ddefnyddio i gynnal gweithdy byr i'ch tywys trwy'r fethodoleg.   Mae hwn yn gweithio orau pan mae mor ymarferol â phosib, fel y gallech ei ddefnyddio fel cyfarfod cychwynnol y project gyda'ch tîm. Y man cychwyn gorau yw eich arbenigwr rheoli newid sefydliadol ac rydym yn hapus i helpu hefyd - gweler y manylion cysylltu ar y wefan.
  • Mae gan JISC ganllawiau defnyddiol ar reoli newid a allai fod yn ddefnyddiol i chi os hoffech ragor o wybodaeth.  Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi, yn enwedig o ran eich cynorthwyo i ddewis gwahanol ddulliau, i ddadansoddi eich sefyllfa bresennol.
  • Ewch i'r adran 'Gwersi a ddysgwyd' ar y dudalen we fel y gallwch ddysgu o brofiadau pobl eraill.

MODEL P3

Yn ol i'r brif ddewislen

Site footer