Dadansoddiad Sefydliadol
BETH YW EICH AMCAN?
Nod yr adran hon yw eich cynorthwyo i nodi'r canlyniadau yr hoffech eu sicrhau. Er mwyn gwneud hyn, dylech sicrhau eich bod:
- Yn glir iawn ynglŷn â gweledigaeth y project;
- Yn ymwybodol o'r modd mae'r project yn cefnogi amcanion strategol cyffredinol y brifysgol;
- Yn nodi gwerthoedd craidd y project yn eglur;
- Yn ymwybodol o'r ystyriaethau cydraddoldeb a chynaliadwyedd sy'n berthnasol i'r project;
- Yn nodi unrhyw risgiau posib a allai rwystro'r project rhag cael ei gyflawni;
- Yn hyderus eich bod wedi nodi amcanion cyffredinol y project.
|
CANLLAWIAU BYR |
GWELEDIGAETH |
Mae'r weledigaeth yn ymwneud ag amlinellu'r 'darlun mawr' ar gyfer y project a'i nod strategol cyffredinol. Dylai'r amlinelliad fod yn un byr. Cwestiynau i’w hystyried:
|
CENHADAETH |
Yn yr adran hon dylid dangos y cysylltiad rhwng gweledigaeth gyffredinol y project a sut mae hynny'n cyd-fynd ag amcanion strategol cyffredinol y sefydliad a/neu'r adran. Cwestiynau i’w hystyried:
|
GWERTHOEDD
|
Dylid nodi gwerthoedd craidd y project yn yr adran hon. Cwestiynau i’w hystyried:
|
Cydraddoldeb |
Amlinellwch unrhyw faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a hygyrchedd sy'n rhaid ymdrin â hwy. |
YR IAITH GYMRAEG |
Nodwch unrhyw faterion yn ymwneud â'r Gymraeg sy'n rhaid ymdrin â hwy. |
Cynaliadwyedd |
Amlinellwch unrhyw faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd sy'n rhaid ymdrin â hwy. |
Risg |
Amlinellwch unrhyw risgiau posib a allai rwystro'r project rhag cael ei gyflawni neu sy'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt ac ymdrin â hwy yn ystod y project, e.e. materion cyfreithiol a llywodraethol, materion ariannol, etc. |
AMCANION |
Yn seiliedig ar yr adrannau uchod, rhestrwch brif amcanion y project. Cwestiynau i’w hystyried:
|
ADNODDAU DADANSODDI DEFNYDDIOL: |
PESTLE |