Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Hanes 

Bu perthynas ddiddorol a datblygol rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ers eu sefydlu yn hwyr yn y 19eg ganrif. Mae gwreiddiau’r ddau sefydliad yn ddwfn yn eu cymunedau, a thyfodd y ddau o weithredu ar y cyd i ddarparu cyfleoedd addysg uwch i bobl Cymru yn y 1870au a’r 1880au – pan oedd prifysgolion yn bodoli yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon, ond nid yng Nghymru.                       

Bu’r ddau sefydliad yn brwydro yn nannedd anfanteision yn ystod y blynyddoedd cynnar, ond tebyg iawn fu hanes datblygu ac ehangu’r ddau wedi hynny. Er bod tebygrwydd rhwng y rhaglenni academaidd, ceir hefyd arbenigeddau penodol yn y naill brifysgol a’r llall (Astudiaethau Gwybodaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, er enghraifft, neu Wyddorau Eigion a Pheirianneg Electronig ym Mangor). Dyfarnwyd pwerau dyfarnu graddau a statws prifysgolion annibynnol i’r ddwy brifysgol yn 2007 (cyn hynny roeddent yn sefydliadau cyfansoddol yn y Brifysgol ffederal yng Nghymru).

Bu llawer o gysylltiadau personol rhwng y ddau sefydliad. Daeth dau o raddedigion amlwg Bangor a fu hefyd yn Athrawon ym Mangor – Thomas Parry a Derec Llwyd Morgan – yn Brifathro neu Is-Ganghellor yn Aberystwyth (y naill yn y 1960au a’r llall yn y 2000au); bu un o raddedigion Aberystwyth, Syr Williams Mars-Jones yn Llywydd Prifysgol Bangor (1982-94), a bu’r Arglwydd Cledwyn, cyn Aelod Seneddol Ynys Môn ac Ysgrifennydd Cymru, yn Llywydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor (yn Aberystwyth o 1977-85 ac ym Mangor o 1995-2000). Ar ben hynny, symudodd nifer o staff – yn cynnwys staff hŷn - yn rheolaidd rhwng y ddau sefydliad dros y blynyddoedd.                             

Nid oes amheuaeth na fu’r ddwy brifysgol yn cystadlu â’i gilydd, ond fe fu cydweithio toreithiog yn ogystal. Yn y 1980au, wrth i gyllid addysg uwch gael ei leihau’n sylweddol, fe arweiniodd rhesymoli pynciau (dan y Brifysgol ffederal bryd hynny) at gau Ffiseg a Drama ym Mangor (a chanolbwyntio arnynt yn Aberystwyth) a dileu Cemeg a Cherddoriaeth yn Aberystwyth (a chanolbwyntio arnynt ym Mangor).             

Yn 2002, yng nghyd-destun polisi ‘ad-drefnu a chydweithredu’ Llywodraeth Cymru yn sector y prifysgolion yng Nghymru, dechreuodd aelodau o staff hŷn y ddau sefydliad gyfarfod yn rheolaidd i drafod cydweithio pellach. Llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Aberystwyth a Bangor gan Is-Gangellorion a Chofrestryddion y ddau sefydliad bryd hynny, gan addo cydweithio lle bo hynny’n bosibl o ran materion academaidd, gwasanaethau gweinyddol ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn 2005/6, yn dilyn sefydlu Cronfa Ad-drefnu a Chydweithredu’r CCAUC, fe wnaeth y ddau sefydliad gais llwyddiannus am gyllid o £11M dros bum mlynedd i ddatblygu Partneriaeth Ymchwil a Menter (gweler isod). Ar ôl i’r prosiect hwn ddod i ben, fe ymrwymodd Aberystwyth a Bangor i bartneriaeth fanylach ac ehangach drwy lofnodi Cynghrair Strategol yn Rhagfyr 2011.           

 

 

 

 

 


Site footer