Gweledigaeth Strategol
Mae’r Gynghrair Strategol wedi tyfu allan o ysgogiad Strategol dwfn a dilys. Mae’r ddwy Brifysgol o faint canolig gyda amrywiaeth eang o bynciau yn ei meysydd academaidd ond yn darparu’r oll o’r cymorth ardderchog sydd i’w ddisgwyl mewn Prifysgolion mwy. Mae’r gweithgaredd ymchwil synergaidd ar draws ein disgyblaethau, y newid strwythurau yn y gorsafoedd ymchwil y Cyngor Ymchwil yn Aberystwyth a Bangor a’r angen i weithio’n fwy ar y cyd ar draws y sector AU yng Nghymru i adeiladu gwydnwch a gallu, wedi darparu amgylchedd pwysig i ddatblygu’r cydweithrediad.
Mae’r weledigaeth strategol am gydweithrediad sy’n naturiol, wedi ei wreiddio a’i ysgogi gan gyfleoedd. Mae’r Gynghrair yn gydweithrediad sy’n dod a chyd-weithgaredd a chyd-fuddiannau ynghyd, ble mae cydweithredu yn ‘gwneud synnwyr’ ac yn dod a bydd sylweddol i’r ddwy Brifysgol a’r ardal.
Fe sefydlwyd bedwar canolfan ymchwil ar y cyd drwy Bartneriaeth Ymchwil a Menter ac fe adeiladwyd sylfaen cydweithredol cryf gan y canolfannau hynny, wrth ddefnyddio cyfleoedd ymchwil synergyddol. Fe enillodd y Bartneriaeth Ymchwil a Menter dros £50m o arian ymchwil dros pum mlynedd y bartneriaeth gan ddiweddu mewn dau gyflwyniad hynod llwyddiannus i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014. Mae etifeddiaeth llawer o’r gwaith yma yn parhau i ddatblygu a chyflwyno prosiectau newydd drwy cyd-arweinyddiaeth Sêr Cymru Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd a thrwy gyd-ymatebion tuag at gyfleoedd ariannu ymchwil.
Mae llawer wedi newid ers dechrau’r berthynas yn 2006. Fe dyfodd drwy’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter ac wedyn ehangwyd mewn i dimau Gwasanaethau Proffesiynol; fel swyddogaeth cynnal ymchwil a menter, y timau Adnoddau Dynol, a’r timau Datblygu Academaidd a Llywodraethu Gwybodaeth. Mae’r timau yma yn parhau i faethu perthynas cryf a mynd i’r afael â heriau cyffredin a newid sy’n effeithio ar y ddwy Brifysgol.
Mae’r weledigaeth ar gyfer y Gynghrair yn parhau yn gryf. Mae llawer wedi newid yng nghyd-destun rhanbarthol ac yn y sector, ond wrth inni barhau ein datblygiad mae’r Brifysgolion yn parhau i adnabod eu gilydd fel partneriaid strategol sylweddol.
Canolfannau Ymchwil
- Y Ganolfan Ymchwil Talgylch ac Arfordirol
- Y Ganolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig
- Y Ganolfan ar gyfer Deunyddiau a Dyfeisiau Gweithredol Uwch
- Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar