Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar

Hywel Dda Book

Mae'r sefydliad yn adeiladu ar ragoriaeth ymchwil yn y Celfyddydau a'r Pynciau Dyneiddiol yn Aberystwyth a Bangor a bydd yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol o astudio'r cyfnodau canoloesol a modern cynnar. Dan arweiniad Cyfarwyddwr o fri rhyngwladol bydd y rhwydwaith ymchwil hwn a fydd yn drawsadrannol, ac a fydd yn gweithio ar draws y prifysgolion, yn cyfuno'n systematig, drwy brosiectau ymchwil clystyrog llai a gweithgareddau cydweithredol mwy, i greu'r gallu i roi sylw i gwestiynau ymchwil mawr ac i foderneiddio diwylliant gwaith ysgolheigion cydnabyddedig, myfyrwyr ymchwil ôl-ddoethuriaeth ac ymchwilwyr ôl-raddedig. Mae nifer o dimau amlddisgyblaethol wedi eu creu i ganolbwyntio ar bynciau megis: Merched a'r Cysegredig, Diwylliannau Rhyfel, Diwylliannau Llawysgrif ac Argraffedig a Diwylliannau Ymylol.

Amcanion Strategol

  1. Creu rhwydwaith ymchwil arloesol i drawsnewid y broses ymchwil
  2. Creu timau ymchwil amlddisgyblaethol i edrych ar gwestiynau ymchwil newydd
  3. Datblygu rhwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr a phobl eraill sydd â diddordeb i hyrwyddo ac ategu'r rhaglen ymchwil hon
  4. Datblygu rhaglen eff eithiol i rannu gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth y llifo'n dda rhwng y canolfannau ymchwil, yr economi a'r gymdeithas

Site footer