Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwasanaethau Cydweithredol ac a Rennir

Yr ydym wedi ymrwymo i wella ansawdd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein gwasanaethau ac y mae gweithio ar y cyd yn offeryn hwyluso allweddol wrth gyflawni hyn. Y mae’r dulliau yn amrywiol ac yn cynnwys datblygu prosesau cyffredin, rhannu arferion da ac arbenigedd, cefnogi ein gilydd wrth weithredu systemau a chaffael newydd.

Y mae amrywiaeth o staff y gwasanaethau cymorth yn cydweithio er mwyn sicrhau gwell adnoddau ac ansawdd, gan gynnwys:

• Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd – drwy agweddau cydweithredol at gyflogadwyedd.
• Archwilio a Risg – e.e. caffael darparwyr gwasanaethau archwilio ar y cyd
• Llywodraethu – gweithgareddau hyfforddi a datblygu ar y cyd
• Adnoddau Dynol a Datblygu Staff – ar rychwant eang o faterion gweithrediadol a datblygol.
• Ystadau a Chyfleusterau – ar faterion gweithrediadol a rheoli ynni.
• Gwasanaethau’r Iaith Gymraeg – yn cynnwys Aberystwyth yn mabwysiadu system gyfieithu cof arloesol Bangor, “Cyfieithyn”.
• Datblygiad Polisi – gan gynnwys datblygu methodoleg gyffredin ar gyfer datblygu a chymeradwyo polisïau
• Gwasanaethau Ymgynghori – drwy sefydlu cwmni ar y cyd a datblygu polisïau cyffredin.
Y mae cyflawni gwasanaethau amrywiol o safon uchel mewn Prifysgolion o faint Aberystwyth a Bangor yn her go- iawn a bydd agwedd o gydwasanaethu yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r her. Bydd angen cydweithio ochr yn ochr â rhaglenni gwelliant mewnol. 

Site footer