Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canolfan Ymchwil Integredig i'r Amgylchedd Wledig

Wind turbines in West Wales

Mae'r Ganolfan Ymchwil Integredig i'r Amgylchedd Wledig yn cyfuno gwybodaeth arbenigol i greu crynswth effeithiol ar gyfer ymchwiliadau arloesol o'r ansawdd uchaf, wedi eu hintegreiddio ar draws disgyblaethau i ddarparu tystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniadau allweddol ar gyfer cynaliadwyedd yr amgylchedd wledig, yng Nghymru, yn y DU, a thrwy gydweithrediad, ledled y byd.

Mae'r amgylchedd wledig o dan fygythiad drwy'r byd i gyd gan y newid amgylcheddol a gan yr amrywiol alwadau ar y tir. Mae Cymru yn ficrocosm o'r pwysau yma; yn 'Cynllun Gofodol Cymru' mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi amcanion amgylcheddol sy'n cynnwys rheoli'r amgylchedd yn unol â'i nodweddion arbennig, fel ei bod yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, gan gynnwys cynnal carbon y pridd, lleihau difwyniad, rheoli ffynonellau o lygredd mewn dwr, gwarchod tirluniau a gwella cynefinoedd, ac addasu'r economi sy'n seiliedig ar y tir i ganolbwyntio ar gynhyrchion uchel eu gwerth, a chysylltiadau â thwristiaeth a hamdden.

Amcanion Strategol

  1. Gwella dadansoddiad amlswyddogaethol o sut y defnyddir tir, gan bwysleisio'r cyswllt ymarferol rhwng cynhyrchu (bwyd, ffibrau a ffytogemegolion) a gwasanaethau'r ecosystem (bioamrywiaeth, ansawdd dwr ac awyr, rheoli llif dwr a rheoli poblogaethau o bathogenau a defnydd hamddem)
  2. Cael amgenach dealltwriaeth o ecoleg tirluniau rheoledig gan ddefnyddio genomeg, proteomeg a metabolomeg a dulliau newydd o drafod modelu a systemau ecolegol
  3. Deall effaith gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tir ar gynaliadwyedd a gwytnwch ecosystemau, a chanlyniadau aflonyddu ar yr ecosystemau hyn o ran carbon a chylchrediad maethol
  4. Gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd i hyrwyddo penderfyniadau ar gyfer defnyddio tir yn gynaliadwy a chynaliadwyedd adnoddau dwr, systemau afonydd, a'r arfordir

Mwy: http://www.cirre.ac.uk/

Site footer