Newyddion
25 Mawrth 2015
Cynhadledd Rheoli Newid
Cynhelir cynhadledd undydd ar Wasanaethau Cydweithredol ac a Rennir gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor ar 25 Mawrth 2015. Cynhelir y gynhadledd rhwng 10am a 4pm yn Aberystwyth.
Datblygir yr ail gynhadledd flynyddol hon o dan y thema "Rheoli Newid" a bydd yn edrych ar weithgareddau presennol a methodolegau i gefnogi ein hymdrechion yn yr amgylchedd sy'n newid. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
25 Chwefror 2015
Lansio Cyfres Ddarlithoedd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol dros Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus NRN-LCEE)
Bydd NRN-LCEE, a reolir ac a gyflwynir gan Gynghrair Strategol Aber-Bangor, yn lansio ei gyfres darlithoedd ddydd Mercher, 25 Chwefror 2015 gyda darlith gan Caroline Drummond MBE ar destun “Breaking Down the Barriers to Deliver Real Change to our Farming and Food System”. Traddodir y ddarlith yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r ddarlith yn agored i’r cyhoedd ac fe'i darlledir ar y rhyngrwyd hefyd. Rhagor o wybodaeth
Gwanwyn 2015
Cyhoeddiad – Cynhadledd IMEMS ar Deithio a Gwrthdaro
Bydd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), a leolir ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ei ail gynhadledd eilflwydd ym Mhrifysgol Bangor, 3-5 Medi 2015 ar y pwnc ‘Teithio a Gwrthdaro’.
Bydd y gynhadledd ryngwladol hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion o bob maes i ystyried y cysylltiadau epistemolegol, athronyddol, gwybyddol, a diwylliannol rhwng teithio a gwrthdaro – yn deithio a gwrthdaro gwirioneddol neu’n deithiau i ofodau yn y dychymyg – yn y byd modern cynnar a’r canol oesoedd. Rydyn ni’n falch o fod yn croesawu Michal Biran (Prifysgol Hebraeg, Jerwsalem), Daniel Carey (Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway) a Judith Jesch (Prifysgol Nottingham) i draddodi darlithoedd cyweirnod yn y gynhadledd. Byddant yn annerch y gynhadledd ar draws meysydd mor eang ag astudiaethau Hen Norwyeg a Llychlyneg, (yn enwedig y Llychlynwyr Alltud a chof diwylliannol); symudedd yn Ewrasia Mongolaidd a theithio ac athroniaeth teithio yn Ewrop fodern gynnar.
Rhwydwaith Cymru-gyfan yw IMEMS, sy’n cynnal seminarau ymchwil rheolaidd trwy gyswllt fideo rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Y Drindod Dewi Sant, ac Abertawe. Edrychwn ymlaen i groesawu ysgolheigion i Fangor ym mis Medi.
Trefnwyr yr achlysur yw Rhun Emlyn a Gabor Gelléri yn Aberystwyth, ac Andrew Hiscock a Rachel Willie ym Mangor.
Rydym yn hynod falch i gyhoeddi bod y Gymdeithas Hanes Frenhinol wedi dyfarnu cyllid inni er mwyn i uwchraddedigion ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol nad ydynt yn cael cymorth sefydliadol allu mynd i’r gynhadledd.
Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth ar y gynhadledd http://travelandconflict.wordpress.com
Rhagfyr 2014
Llwyddiant REF i Gynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dathlu eu llwyddiannau cyfunol yn dilyn cyhoeddi canlyniadau eu cyflwyniad ymchwil ar y cyd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) y DU 2014.Yn dilyn sefydlu Cynghrair Strategol Aber-Bangor yn 2006, mae'r prifysgolion wedi cydweithio ar nifer o brojectau ymchwil, polisïau a datblygiadau gwasanaeth mewn partneriaeth sy'n defnyddio amrywiol gryfderau ac arbenigedd ymchwil y ddwy brifysgol.
Yn dilyn buddsoddi gan HEFCW, BBSRC a'r ddwy brifysgol yn y Bartneriaeth Ymchwil a Menter (£10.9M) a'r Gynghrair Biowyddoniaeth, Amgylchedd ac Amaethyddiaeth (£50M), cyflwynodd y Gynghrair ddwy Uned Asesu ar y cyd i'w hystyried gan yr REF. Heddiw, ddydd Iau 18 Rhagfyr, mae'r ddwy brifysgol yn dathlu llwyddiant y bartneriaeth a'r cyflwyniadau REF ar y cyd. Datganiad llawn i'r wasg yma.
Seminarau Ymchwil SACMC - Rhaglen i Hydref 2011 | Mae aelodau SACMC yn cwrdd yn rheolaidd gyda staff mewn prifysgolion eraill yng Nghymru (Caerdydd, Abertawe a Y Drindod Dewi Sant) trwy gyfrwng Rhwydwaith Fideo Cymru, er mwyn cynnal seminarau ymchwil ym maes astudiaethau canoloesol a modern cynnar. Mae’r gyfres yn denu siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac o bob rhan o’r byd, gan roi cyfle i bobl sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd gyfnewid syniadau. |
Newyddlen y Cyfarwyddwyr | Mae Cyfarwyddwyr y Ganolfan yn cyhoeddi newyddlen yn rheolaidd er mwyn rhannu newyddion am y Ganolfan fel y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a datblygiadau’r Ganolfan. |
Gwanwyn 2014 |
Mae Prifysgol Bangor a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, wedi cydweithio ar broject i wneud un o emau llenyddiaeth Saesneg, a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol, ar gael am ddim i bawb. Cynhyrchwyd copi Hengwrt o Chwedlau Caergaint gan Geoffrey Chaucer yn Llundain ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, a chredir iddo fod y fersiwn cynharaf sy'n bodoli o'r gwaith hwn. Y mae bellach wedi'i ddigideiddo'n llawn, ac ar gael i ddefnyddwyr ledled y byd ei weld drwy wefan y Llyfrgell. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
Symposiwm undydd – ‘Golau ar y Gorffennol’, Dydd Mawrth 23 Awst, 2011 | Ar ddydd Mawrth 23 Awst, cynhelir symposiwm undydd o’r enw ‘Golau ar y Gorffennol: Ymchwilio i Deuluoedd Cymreig a’u Harchifau c.1500-1850’ yn neuadd Gloddaith, (Coleg Dewi Sant), Llandudno; un o breswylfeydd hynafiaid y teulu Mostyn. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar astudiaethau cyfredol o deuluoedd Cymreig a’u harchifau c.1500-1850. Mae’r darpar gyflwynwyr yn amrywio o archifwyr a gwerthwyr celfyddyd i ymgeiswyr doethurol a darlithwyr prifysgol, ac fe fydd testunau’r cyflwyniadau’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o themâu yn cynnwys portreadaeth, ysgrifennu creadigol, treuliant amlwg, barddoniaeth Gymraeg, caethwasiaeth, Piwritaniaeth a materion archifol. Cliciwch yma am adroddiad o'r digwyddiad
|
Darlith Gyhoeddus "Cyfieithu mewn Cyd-destun" Dydd Mercher 23 Mawrth |
Traddodir darlith flynyddol "Cyfieithu mewn Cyd-destun" eleni gan yr Athro John Rutherford nos Fercher (23ain) am 6 o'r gloch ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau (MALT). Penodwyd yr Athro John Rutherford yn Athro Sbaeneg er Anrhydedd, ac mae'n arbenigo mewn cyfieithu llenyddol, astudiaethau Sbaenaidd ac astudiaethau Galisaidd. Teitl ei ddarlith fydd: 'The Impossibility of Literary Translation: The Galician Medieval Cantigas'. Trefnwyd y ddarlith hon gan y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru, yr Ysgol Ieithoedd Modern ac IMEMS. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
|
Ymchwil, Archaeolegol, ar y Cyfnod Cynnar yng Ngwlad yr Iâ yn denu sylw Rhyngwladol |
Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y bobl gynnar hyn yng Ngwlad yr Iâ a chymunedau mynachaidd o’r traddodiad Gwyddelig oedd wedi’u lleoli yng ngorllewin yr Alban. Dr Kristján Ahronson o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor wnaeth y darganfyddiadau hyn a chafodd ei waith ei drafod ar y rhaglen materion cyfoes fwyaf blaenllaw ar y radio fin nos yng Nghanada, "As it Happens". Darlledwyd y cyfweliad ar draws Canada ar Radio CBC ac yn yr Unol Daleithiau ar ei gwasanaeth Radio Cenedlaethol Cyhoeddus. Gwnaed y darganfyddiadau hyn yng Ngwlad yr Iâ drwy i dîm Dr Ahronson ddefnyddio techneg o’r enw tephrochronology sydd yn defnyddio’r lludw (neu’r tephra) sy’n disgyn o losgfynydd wrth iddo ffrwydro. Mae tephrochronolgy wedi galluogi’r tîm i ddyddio’r safle archaeolegol ac i edrych ar y cofnod sydd yn y tephra o ryngweithio rhwng dyn a’i amgylchedd ac o newid hinsawdd yn y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ. GWRANDEWCH AR Y CYFWELIAD AR CBC: Gwrandewch ar y cyfweliad ar lein drwy fynd i www.cbc.ca/aih . Ewch i’r rhaglen a ddarlledwyd ddydd Mawrth, 11 Ionawr a chliciwch ar y ddolen i Rhan 3. Mae cyfweliad Dr Ahronson yn dechrau ar 18.54. DOLEN YN SYTH I BENNOD 11 IONAWR: http://www.cbc.ca/asithappens/episode/2011/01/11/tuesday-january-11-2011/ DARLLENWCH YMHELLACH:
http://www.unreportedheritagenews.com/2010/12/did-scots-visit-iceland-new-research.html |
Project wedi ei ariannu gan yr AHRC ar gynhyrchu a darllen ffynonellau cerddoriaeth, 1480-1530 |
Mae grant o bwys gan yr AHRC wedi cael ei ddyfarnu i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, ar y cyd â Sefydliad Warburg (Prifysgol Llundain) i astudiaeth ar gynhyrchu a darllen ffynonellau cerddoriaeth, 1480-1530. Mae'r project wedi cael bron i £800,000 o gyllid, y swm mwyaf erioed i'r AHRC ei roi i broject ym maes cerddoriaeth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. |
Y Royal Shakespeare Company yn gwadd academydd o Fangor i roi sylwadau ar awdur Arthuraidd canoloesol |
Cafodd Dr Raluca Radulescu, Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol ac arbenigwr ar waith Syr Thomas Malory, ei gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus 'Authoring Arthur' ddydd Sul 27 Mehefin 2010, a oedd yn cynnwys trafodaeth banel gyda Mike Poulton, a fu’n gyfrifol am addasu Morte Darthur ar gyfer y Royal Shakespeare Company, a Gillian Bradshaw, nofelydd ac awdur y drioleg Arthuraidd Down the Long Wind. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
2010 | Seminarau Ymchwil SACMC Mae aelodau SACMC yn cwrdd yn rheolaidd gyda staff mewn prifysgolion eraill yng Nghymru (Caerdydd, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan) trwy gyfrwng Rhwydwaith Fideo Cymru, er mwyn cynnal seminarau ymchwil ym maes astudiaethau canoloesol a modern cynnar. Mae’r gyfres yn denu siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac o bob rhan o’r byd, gan roi cyfle i bobl sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd gyfnewid syniadau. |
Seminarau y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol |
Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn cynnal seminarau rheolaidd ar gyfer staff ac uwchraddedigion. |
Newyddion Cyllido |
Seliau Canoloesol Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mae’n bleser gan dîm y prosiect gyhoeddi llwyddiant cais prosiect sylweddol i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i gefnogi gwaith ar seliau canoloesol Cymreig yn LlGC a chadwrfeydd eraill. |
Cyllid i Gymdeithas Astudiaethau'r Dadeni |
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. |
CARMEN | Ystyr CARMEN yw’r Co-operative for the Advancement of Research through a Medieval European Network, sef rhwydwaith byd-eang sy’n dwyn ynghyd grwpiau o ganoloeswyr (gan gynnwys 'cynghreiriau o ganolfannau', megis canolfannau ymchwil cenedlaethol neu oruwchgenedlaethol, cyrff disgyblu, neu gymdeithasau o unigolion) sy’n gweithredu ar lefel uwchlaw prifysgolion unigol, yn ogystal â phrifysgolion unigol, cyrff cyhoeddus a phreifat (e.e. amgueddfeydd, orielau, cyhoeddwyr) sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes dysgu neu ymchwil i’r Oesoedd Canol (tua 400-1500 OC). http://www.carmen-medieval.eu/ a http://carmen.eldoc.ub.rug.nl/root/abcarm/ Cynrychiolydd/person cyswllt SACMC yn CARMEN yw Dr Raluca Radulescu (Saesneg, Bangor), a gall aelodau SACMC sydd â diddordeb mewn prosiectau ymchwil neu ddysgu ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol gysylltu â hi ar els201@bangor.ac.uk. |
6 - 8 July 2011 |
The Wye Valley: Romantic Representations, 1640-1830 Tyndyrn, Sir Fynwy, Cymru Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. |
26 - 28 Gorffennaf 2011 | Cynhadledd Canolfan Prydain ac Iwerddon yr Adferiad ar y 1690au. Cliciwch yma am ragor o fanylion. |
13-16 Hydref 2011 |
Cynhadledd ryngwladol a rhyngddisgyblaethol nesaf Cymdeithas George Herbert. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. |
Gwanwyn 2014 | Yn ystod gwanwyn 2014 bydd yn bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor (SACMC), ar y cyd â Llyfrgell Huntington, Califfornia, gynnal arddangosfa a fydd yn tynnu sylw at un o drysorau pennaf y Llyfrgell Genedlaethol, sef llawysgrif Hengwrt o’r Canterbury Tales gan Chaucer. Cred rhai mai dyma’r fersiwn gynharaf sydd wedi goroesi o’r campwaith llenyddol hwn. |
7 - 9 Mehefin 2010 |
Crwsadau ôl-ganoloesol: ieithoedd, cyd-destunau, newid c1400-1700 Prifysgol Aberystwyth |
26 Mai 2010 | Cynhelir cynhadledd flynyddol SACMC ddydd Mercher 26 Mai 2010 yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. |
9 Rhagfyr 2009 |
Adolygiad Canol Tymor Partneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgolion Aberystwyth a Bangor |
2009 – Semester 1af |
|
Newyddlen y Cyfarwyddwr | |
28 – 30 Gorffennaf 2009 | Gwleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 1680au Bydd y gynhadledd ar Wleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 1680au yn cael ei chynnal ddiwedd Gorffennaf 2009 ym Mangor. |
"Pastoralism and the British Problem" |
Dyfarnwyd cymrodoriaeth Leverhulme i Dr Stewart Mottram, Darlithydd Ymchwil IMEMS ym maes Saesneg, i wneud ymchwil yn yr Adran Saesneg yn Aberystwyth er mwyn ysgrifennu llyfr, sef “Pastoral: Writing Reformation England and Wales”. |
2008 - 2009 | Cyfres o Seminarau Tymor yr Hydref Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn cynnal cyfres o seminarau dan nawdd yr Ysgolion Saesneg, Hanes, a Cherddoriaeth. Mae’r seminarau yn cael eu cynnal yn Ystafell Seminar HRC/WISCA ar ddyddiau Iau, 5.00 pm (oni nodir fel arall). Lluniaeth ar gael y tu allan i ystafell WISCA o 4.45 pm. |
11 Hydref 2008 | Cynhadledd Diwylliannau Rhyfel a Datrys Gwrthdaro |
24 - 27 Gorffennaf 2008 | Cynhadledd Flynyddol Cerddoriaeth Ganoloesol a Cherddoriaeth y Dadeni |
3-4 Gorffennaf 2008 | Cynhadledd ddeuddydd ar y thema ‘Geiriau am Gymru: 1500-1800’ |
10 – 12 Mehefin 2008 | Menywod a’r cysegr: cynhadledd uwchraddedig |
1 Mawrth 2008 | Cynhadledd gyntaf y rhwydwaith ‘Diwylliannau Rhyfel’ |
11 Chwefror 2008 | Gweithdy amser cinio gyda’r Athro Gerd Althoff |
Hyfforddiant Uwchraddedig ar y Cyd mewn Paleograffeg |
|