Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Y Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd

Storm yn dyrnu pentref Borth.

Mae'r Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd yn cyfuno gwybodaeth arbenigol mewn ymchwil ddaearol a morol i greu crynswth effeithiol ar gyfer cynnyrch ymchwil pur/cymhwysol newydd a sylweddol. Bydd y rhain yn cyfrannu at well penderfyniadau yn cael eu gwneud gan reolwyr i sicrhau cynaliadwyedd adnoddau ac ansawdd dwr, systemau afonydd, a'r amgylcheddau arfordirol / silffoedd yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

Bydd CYDdA yn datblygu ei rhaglenni ymchwil ar y cyd â strategaeth datblygu gwyddoniaeth y Cyngor Ymchwil i'r Amgylchedd Naturiol (2007-2012) ac amcanion Cynllun Gofodol Cymru. Bydd CYDdA yn datblygu rhaglenni ymchwil a fydd yn rhoi i reolwyr amgylcheddol y wybodaeth i:

Amcanion Strategol

  1. Integreiddio gwaith rheoli a datblygu'r amgylchedd forol a'r dyfroedd mewndirol yn ofodol i gynnal ac i wneud yn fawr o botensial arfordirol Cymru.
  2. Reoli llygredd o ffynonellau penodol ac o ffynonellau gwasgaredig er mwyn lleihau difwyniad mewn priddoedd, gwaddodion a dwr gan arwain at well gwarchodaeth ac at well ansawdd tirluniau, cynefinoedd ac ecosystemau - o ddalgylchoedd afonydd hyd ymyl y silff gyfandirol.
  3. Ddatblygu strategaethau, offer a modelau i wella dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol a ddaw o newid yn yr hinsawdd ar ddalgylchoedd a pharthau arfordirol, gan gynnwys perygl llifogydd, newid yn lefel y môr, a mwyfwy o stormydd.

Mwy: http://www.cccr.ac.uk

Site footer